Y Gronfa Buddsoddi i Gymru’n cyhoeddi ei gytundeb cyllid dyled cyntaf


Rhodri Evans
Reolwr y Gronfa
Wedi ei gyhoeddi:
Palmers

Mae Banc Busnes Prydain yn cyhoeddi ei gytundeb cyllid dyled cyntaf o’r Gronfa Buddsoddi i Gymru gwerth £130m, ar ffurf buddsoddiad o £500,000 o’r Gronfa Buddsoddi i Gymru o dan reolaeth y rheolwyr cronfeydd FW Capital. 

Y buddsoddiad yn y cwmni contractau sgaffaldio blaenllaw, Palmers Scaffolding o Lannau Dyfrdwy, yw’r cytundeb ariannu dyled cyntaf i gael ei gyhoeddi ar ran y Gronfa Buddsoddi i Gymru, a hynny llai na mis ar ôl i’r Banc gadarnhau ei fod wedi cwblhau cytundeb ecwiti cyntaf y Gronfa, a chwta thri mis ar ôl lansio’r Gronfa ar 23 Tachwedd 2023.

Lansiodd Banc Busnes Prydain, a gynorthwyir gan y llywodraeth, y Gronfa Buddsoddi i Gymru er mwyn hybu’r cyflenwad o gyllid cyfnod cynnar sydd ar gael i fusnesau bach a chanolig eu maint ar draws Cymru. 

Palmers Scaffolding o Lannau Dyfrdwy yw contractwr sgaffaldio hynaf y DU. Cafodd ei sefydlu nôl ym 1880 gan Edwin Palmer, a’i gorffori ym 1912. Mae Palmers yn cyflogi gweithlu medrus a phrofiadol o dros 190 o weithwyr, ac mae’n gyson ymysg 10 uchaf ’contractwyr sgaffaldior  DU. Mae trosiant y cwmni wedi cynyddu’n gadarn dros y blynyddoedd diwethaf o £12m yn 2020 i £23m yn 2023, a disgwylir iddo daro £31m yn 2024.

Mae Palmers wrthi’n gweithio ar brosiect Gorsaf Ynni Niwclear Hinkley Point C yn ne-orllewin Lloegr ar ran amrywiaeth o gleientiaid ar hyn o bryd, ac mae’n cyflenwi amrywiaeth o gleientiaid diwydiannol blaenllaw eraill yng ngogledd-ddwyrain Lloegr, o’i leoliad yn Teesside. Mae ganddo gontractau allweddol ym meysydd awyr Gatwick a Heathrow, a chontractau adeiladu ar gyfer y Major Contractors Group ar draws canol Llundain. 

Mae gan Palmers swyddfeydd rhanbarthol yng ngogledd-orllewin, gogledd-ddwyrain, a de-ddwyrain a de-orllewin Lloegr, ac mae ei Bencadlys yn Sir y Fflint.

Dywedodd Rhodri Evans, Rheolwr Cronfeydd y Gronfa Buddsoddi i Gymru yn FW Capital: “Rydyn ni’n falch ein bod ni wedi gallu gweithio gyda Palmers Scaffolding a’u cefnogi â’r buddsoddiad oedd ei angen arnynt trwy’r Gronfa Buddsoddi i Gymru. Brand Cymreig cadarn ydyn nhw, mae eu blynyddoedd maith o wasanaeth a phrofiad yn y sector yn gydnabyddedig ar draws y DU, ac mae gwybodaeth helaeth Michael a’i dîm wedi rhoi hyder mawr i ni yn ein buddsoddiad.”

Dywedodd Michael Carr, Prif Weithredwr Palmers: “Bu proses gymeradwyo FW cyn derbyn ein cais yn drylwyr iawn. Gwnaeth eu dull o weithredu argraff fawr arnom ni.

“Prosiectau seilwaith graddfa fawr fel yr un yn Hinkley Point yw corff ac enaid ein gwaith, ond roedd angen llawer o gyfalaf gweithio arnom i dynnu popeth roedd ei angen at ei gilydd ar ôl i beirianwyr sifil Cyd-fenter BYLOR ein tynnu ni i mewn i chwarae rhan yn y gwaith adeiladu.

“Rydyn ni wrth ein bodd ein bod wedi cael y cymorth angenrheidiol gan y Gronfa Buddsoddi i Gymru ac FW Capital, sydd wedi golygu ein bod ni’n gallu cychwyn ar y prosiect ar garlam, a rhannu ein harbenigedd ag un o’r prosiectau mwyaf o’i fath sydd ar droed yn y DU ar hyn o bryd.

“Caiff y benthyciad ei ddefnyddio at ein gofynion ariannu llif arian a gwariant cyfalaf. Rydyn ni wrthi nawr yn ehangu ein hôl troed yn y gogledd-orllewin ac yn cyllidebu ar gyfer trosiant o £31M yn 2024.”

Dywedodd Mark Sterritt, Cyfarwyddwr Cronfeydd Buddsoddi y Cenhedloedd a’r Rhanbarthau gyda Banc Busnes Prydain: “Sefydlwyd Cronfa Buddsoddi i Gymru'r Banc er mwyn cynorthwyo busnesau llai â’u huchelgeisiau ar gyfer twf. Mae’r gronfa’n cynorthwyo cwmnïau blaengar sy’n esblygu fel Palmers, sy’n gwmni hirsefydlog, a bydd bellach yn defnyddio’i enw da i wireddu twf.

“Mae’r Banc Buddsoddi i Gymru ar agor am drafodaethau gyda busnesau twf ar draws Cymru, ac mae hi wedi ymrwymo i fuddsoddi mewn amrywiaeth o strategaethau ehangu.”

Am ragor o fanylion: www.investmentfundwales.co.uk